Gwyliau glan môr ar Benrhyn Llyn yng Nghymru

Gwyliau glan môr ar Benrhyn Llyn yng Nghymru | Min y Môr

Gwyliau glan môr ar Benrhyn Llyn yng Nghymru. Bwthyn 5 seren i 8 gyda twb poeth preifat ac o fewn pellter cerdded i'r traeth

Gwyliau glan môr ar Benrhyn Llyn yng Nghymru

Mae’r bwthyn 5 seren hwn gyda thwb poeth preifat yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau bwthyn arfordirol ar Benrhyn Llyn. O fewn pellter cerdded i draeth Porthoer, fe leolir Min y Môr mewn man hardd a heddychlon gyda golygfeydd godidog a gardd fawr amgaeedig - perffaith ar gyfer plant neu anifeiliaid. O fewn 2 filltir i Aberdaron, y pentref mwyaf gorllewinol ar Benrhyn Llyn, ble dowch o hyd i gaffis bach, tafarndai/bwytai a thraeth tywodlyd arall.

Llawr Gwaelod

Ardal fyw helaeth a chroesawgar gyda golygfeydd anhygoel dros yr ardd a thu hwnt. Mae’n cynnwys lolfa, cegin ac ardal fwyta agored gyda gwres o dan y llawr.

Cegin dderw gyda phopeth sydd ei angen arnoch, gan gynnwys peiriant golchi llestri, popty trydan, hob anwytho, meicrodon a bwrdd bwyta derw.

Mae yna soffas lledr yn y lolfa gyda drysau patio mawr sy’n gwneud i’r ardd ymddangos fel pe bai yn rhan o’r ystafell fyw. Teledu mawr ar y wal gyda DVD a Wi-Fi yn gynwysedig.

Prif ystafell wely gyda gwely maint king, ystafell gawod ensuite gyda thoiled a gwres o dan y llawr.

Ystafell wely dwbl gyda chwpwrdd gwisgo, cwpwrdd dillad, byrddau bach ger y gwely a lampau.

Ystafell wely fawr yn cysgu 4 gyda dau wely sengl a gwely bync.

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod arwahan, a gwres o dan y llawr.

Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad, a rhewgell.

Gardd

Gardd fawr amgaeedig gyda thrampolîn, barbeciw nwy a golygfeydd anhygoel o gefn gwlad. Lleoliad delfrydol i ymlacio a mwynhau bwthyn gwyliau arfordirol ar Benrhyn Llyn.

Gwybodaeth Ychwanegol
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
  • Darperir dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt
  • Wi-fi ar gael
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir
  • Croeso i 1 anifail (ac un arall am bris ychwanegol o £30)
  • Dim ysmygu tu mewn
  • Digon o lefydd parcio preifat
  • Mwyafrif o 6 oedolyn (gwely bync yn addas ar gyfer plant yn unig)


  • Archebwch neu gael prisiau

  • 5 star
  • Cysgu hyd at 8
  • 3 bedrooms: 1 king, 1 double, 1 twin & bunk (suitable for children)
  • Baby friendly
    Enclosed garden
    Ground floor bedroom(s)
    On a Farm
    Pet-friendly
    Wi-fi / Internet
    Within 5 miles to beach
  • Gweld map mwy o faint
  • Ymholiadau
  • Tystebau

    One of the best holidays. The cottage is a total escape, warm and welcoming with a lovely garden that is safe for my child and dog. We loved the scenery, which we enjoyed from the hot tub, that really made the holiday for me. Thank you everyone Tracy and Mike
    , May 2017

    It was perfect. Fantastic holiday in this lovely accommodation, lots to do in the local area and all the comforts of home. The beach is a must to visit, great views and the cafe is lovely. the fish and chips in Aberdaron are so good.
    Couple from Warwickshire, Apr 2017

    Great property and location. Whistling Sands cafe is very good, coastal walks are stunning - easy to observe seals and other wildlife. Good fishing from various locations.
    Family from Worcester, Sep 2016

    Very enjoyable stay.
    Tips - Visit Plas Brondanw Gardens which is about an hour's drive away near Porthmadog. Not very well known but was the home of Clough Williams Ellis who designed Port Meirion.
    Family from Sale, Jun 2016

    Lovely cottage in a quiet rural location.
    Enclosed garden enabled us to safely let the dog out. The weather was good all week and we were able to go walking and also visit local towns and beaches The Ty Coch Inn can be found at a fantastic beach location at Morfa Nefyn. The food and beers were very good & we visited here twice. We also had excellent lunches at Kim & Co in Abersoch & at the stately home/gallery close to the lovely beach at Llanbedrog. Whistling Sands was also a nice beach .
    David from Bolton , Oct 2015

 
 


Eiddo gwyliau eraill ar y safle...

Aberdaron, North Wales Coast, Wales

  • Sleeps up to 8 (3 bedrooms: 1 king, 1 double, 1 twin & bunk)
  • Rates
    £640.00 - £1175.00
Taith fer ar droed i draeth Porth Oer, mae’r bwthyn ar wahân 5 seren hwn yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau bwthyn arfordirol ar Benrhyn Llyn. Lleoliad hardd, heddychlon gyda golygfeydd godidog a gardd fawr amgaeedig - perffaith ar gyfer plant neu eich ffrindiau pedair coes. Dim ond 2 filltir i Aberdaron, y pentref mwyaf gorllewinol ar ben Penrhyn Llyn, ble dowch o hyd i gaffis bach, tafarndai/tai bwyta a thraeth tywodlyd arall.
gweld manylion